SL(6)332– Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2023

Cefndir a diben

Yn ddarostyngedig i rai newidiadau ac un ddarpariaeth drosiannol, mae Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2023 (“y Gorchymyn”) yn dirymu ac yn disodli Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Rhif 2) (Cymru) 2022. 

Mae Rhan 2 o’r Gorchymyn yn darparu bod gweithwyr amaethyddol i gael eu cyflogi yn ddarostyngedig i’r telerau a’r amodau sydd wedi eu nodi yn Rhannau 2 i 5 o’r Gorchymyn ac yn pennu’r graddau a’r categorïau gwahanol o weithiwr amaethyddol.

Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch y cyfraddau tâl isaf y mae rhaid eu talu i weithwyr amaethyddol. Mae darpariaeth yn cael ei gwneud ar gyfer lwfans gwrthbwyso llety a all gael ei dynnu oddi ar dâl gweithiwr amaethyddol. Mae darpariaeth yn cael ei gwneud hefyd ar gyfer lwfans cŵn, lwfans ar alwad, lwfans gwaith nos a grantiau geni a mabwysiadu nad ydynt yn ffurfio rhan o dâl gweithiwr amaethyddol.

Mae Rhan 4 yn darparu bod gan weithiwr amaethyddol hawl i gael tâl salwch amaethyddol o dan yr amgylchiadau sydd wedi eu pennu. Mae darpariaeth yn cael ei gwneud ynghylch cyfrifo faint o dâl salwch amaethyddol y mae gan weithiwr amaethyddol hawl i’w gael.  Mae taliad tâl salwch statudol i gyfrif tuag at hawl gweithiwr amaethyddol i gael tâl salwch amaethyddol.

Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch hawl gweithiwr amaethyddol i gael amser i ffwrdd. Mae darpariaeth yn cael ei gwneud ynghylch hawl gweithiwr amaethyddol i gael seibiannau gorffwys, gorffwys dyddiol a chyfnod gorffwys wythnosol. Mae darpariaeth yn cael ei gwneud hefyd sy’n pennu blwyddyn gwyliau blynyddol y gweithiwr amaethyddol ac ynghylch hawl y gweithiwr amaethyddol i gael gwyliau blynyddol a thâl gwyliau ac ynghylch taliad yn lle gwyliau blynyddol. Mae darpariaeth yn cael ei gwneud yn erthyglau 41 i 43 ynghylch hawl gweithiwr amaethyddol i gael absenoldeb â thâl oherwydd profedigaeth.

Mae Rhan 6 yn cynnwys dirymiad a darpariaeth drosiannol.

Gweithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Gorchymyn gan Weinidogion Cymru cyn iddo gael ei osod gerbron y Senedd.  Caiff y Senedd ddirymu'r Gorchymyn o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’i gosodwyd gerbron y Senedd. 

Materion technegol: craffu

Nodwyd y 2 pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn:

1.    Rheol Sefydlog 21.2 (vi) – ei bod yn ymddangos bod y gwaith drafftio yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Nodir yn Erthygl 29(3):

Caniateir torri ar draws yr isafswm cyfnod gorffwys y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (8) yn achos gweithgareddau sy’n ymwneud â chyfnodau gwaith sydd wedi eu rhannu dros y diwrnod neu sy’n para am gyfnod byr.

Fodd bynnag, nid oes paragraff (8) yn erthygl 29. Mae paragraffau eraill yn cyfeirio at baragraff (3), felly mae'r groesgyfeiriad gwallus hwn yn creu dryswch pellach.

2.    Rheol Sefydlog 21.2 (vi) – ei bod yn ymddangos bod y gwaith drafftio yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Mae Erthygl 41(2) o'r Gorchymyn yn Saesneg yn cyflwyno'r personau yng Nghategori A at ddibenion absenoldeb oherwydd profedigaeth. Mae is-baragraff (a) yn darllen "a child". Mae'r Gorchymyn yn Cymraeg yn cynnwys "yw plentyn" yng nghorff paragraff (2) ac o ganlyniad nid oes is-baragraff (a). Er ei bod yn ymddangos bod hwn yn fater fformatio, yr effaith yw bod gan y Gorchymyn yn Saesneg erthygl 41(2)(a) ac nid oes un gan y Gorchymyn yn Gymraeg.

 

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y 3 pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn: Mae'r pwyntiau hyn yn ymwneud â rhai o'r newidiadau a gynigiwyd gan Banel Cynghori Amaethyddol Cymru ("y Panel") i Orchymyn Cyflogau Amaethyddol (Rhif 2) (Cymru) 2022 sydd wedi eu cynnwys yn y Gorchymyn hwn.

 

3.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Mae Erthygl 2 yn diffinio termau a ddefnyddir yn y Gorchymyn. Rydym yn nodi bod paragraff 23 ar dudalen 7 o’r Memorandwm Esboniadol yn datgan fel a ganlyn:

Mae’r Panel yn cynnig bod y term 'contract gwasanaeth' yn cael ei ddiwygio i ddileu'r gair 'gwasanaeth.’ Y rhesymeg y tu ôl i'r diwygiad hwnyw sicrhau y cynhwysir gweithwyr asiantaeth a gweithwyr sy'n cael eu cyflogi gan feistri gangiau nad ydynt o bosibl yn cael eu cyflogi o dan gontract gwasanaeth yn uniongyrchol gyda'r cyflogwr, ond o dan ryw fath arall o gontract am wasanaethau.

Yn unol â'r gwelliant hwn, nodwn fod y diffiniad “cyflogaeth" wedi'i ddiwygio, fel bod gweithwyr sy'n cael eu cyflogi gan feistri gangiau ac asiantaethau cyflogaeth yn cael eu cynnwys yn benodol.

 

4.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Mae Erthygl 14 yn nodi darpariaethau i ddiogelu cyflog gweithwyr amaethyddol a gyflogwyd cyn 22 Ebrill 2022 a allai fod wedi dioddef gostyngiad yn eu cyfradd fesul awr o ganlyniad i gael eu cymhathu i radd is yn sgil newidiadau yn y strwythur graddio.

Cynigiodd y Panel ddrafftio amgen ar gyfer y Gorchymyn, gan ei fod o'r farn y gellid dehongli'r darpariaethau diogelu cyflogau yn y Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Rhif 2) (Cymru) 2022 fel un sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr rewi cyflog gweithiwyr amaethyddol ar eu cyfradd cyflog ar 22 Ebrill 2022 nes bod y gyfradd isafswm awr yn cyrraedd neu’n mynd yn uwch na’r gyfradd gyflog honno.

Mae'r geiriad arfaethedig yn y Memorandwm Esboniadol, ar waelod tudalen 8, yn wahanol i'r geiriad sy'n ymddangos yn y Gorchymyn. Gofynnwn i Lywodraeth Cymru egluro'r rheswm dros y gwahaniaeth hwn.

 

5.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Mae Erthygl 15 yn gwneud darpariaeth ar gyfer lwfans gwrthbwyso llety a all gael ei dynnu oddi ar dâl gweithiwr amaethyddol. Ni chaiff y cyflogwr ddidynnu mwy na £1.65 yr wythnos o isafswm cyflog y gweithiwr amaethyddol lle darperir tŷ i weithiwr, ac ni all y cyflogwr ddidynnu mwy na £5.29 y dydd o isafswm cyflog y gweithiwr amaethyddol lle darperir llety arall i’r gweithiwr. Rydym yn nodi bod paragraff 23 ar dudalen 7 o’r Memorandwm Esboniadol yn datgan fel a ganlyn:

Nid yw'r Panel wedi cynnig cynnydd i'r cyfraddau hyn ers ei sefydlu. Ar ôl ystyried yr amodau economaidd yn y sector ar hyn o bryd, mae'r Panel wedi cynnig y dylai'r cyfraddau hyn gynyddu yn unol â chynnydd canrannol y Cyflog Byw Cenedlaethol (NLW), gan ddod â'r cyfraddau gwrthbwyso llety yn agosach at y didyniad a ganiateir o dan y ddeddfwriaeth Isafswm Cyflog Cenedlaethol

 

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb Llywodraeth Cymru mewn perthynas â phwyntiau 1, 2 a 4 uchod.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

22 Mawrth 2023